Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (245) |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 4 a chwestiynau 3 ac 11 eu grwpio.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 4 a 6 i 14. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5684 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi na fu unrhyw welliant sylweddol yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru gymryd perchnogaeth o'r maes awyr.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo nwyddau;
b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd; ac
c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
42 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn berchennog ar Faes Awyr Caerdydd heb baratoi achos busnes llawn dros wneud hynny yn gyntaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi strategaeth twf clir a chynhwysfawr, gan gynnwys cynigion ar gyfer llwybrau pell;
b) archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys modelau buddsoddi cyhoeddus a phreifat; ac
c) sicrhau datganoli toll teithwyr awyr er mwyn cynhyrchu llwybrau ychwanegol, cynyddu nifer y teithwyr a rhoi hwb i economi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5684 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo nwyddau;
b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd; ac
c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5681 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru;
2. Yn nodi ymhellach y byddai teuluoedd sy'n talu band D y dreth gyngor yng Nghymru £149.31 y flwyddyn yn gyfoethocach pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i rewi'r dreth gyngor ym mhob blwyddyn ers 2010;
3. Yn gresynu at y ffaith bod biliau treth gyngor wedi cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau gormodol ar aelwydydd sydd o dan bwysau; a
4. Yn credu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a phwyll, er mwyn sicrhau bod cyfraddau treth gyngor yn cael eu gosod mor isel â phosibl i breswylwyr a bod cyfraddau treth gyngor yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
42 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5681 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru;
2. Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.
3. Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
43 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Pwynt o Drefn
Cododd Nick Ramsay Bwynt o Drefn ynghylch y ffordd yr oedd Ann Jones wedi cyfeirio at Janet Finch Saunders yn ystod y ddadl flaenorol. Dywedodd y Dirprwy Lywydd, er y byddai’r term ‘rhagrithiwr’ yn sicr allan o drefn, clywodd ef y gair ‘rhagrith’, a gellir caniatáu’r gair hwnnw yn dibynnu ar y cyd-destun, ac i ba raddau yr oedd wedi’i anelu’n uniongyrchol at gymeriad Aelod. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n bwrw golwg ar y cofnod, ond anogodd yr Aelodau i feddwl am ffyrdd gwahanol o awgrymu bod anghysondebau yng nghyfraniadau pobl eraill.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5686 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i bortffolio ynni'r DU.
2. Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith Llywodraeth y DU a fydd yn caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi yng Nghymru heb ganiatâd gan berchnogion yr eiddo.
3. Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i atal ffracio.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng nghyd-destun yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.56
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.01
NDM5685 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynlluniau pensiynau diffoddwyr tân: sicrhau chwarae teg
Sicrhau nad yw cyn-ddiffoddwyr tân ar eu colled o ganlyniad i'r cynllun pensiwn diffoddwyr tân newydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.16
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2015